Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 1 Mehefin 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
13.30 - 15.27 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Melding AC (Cadeirydd) Alun Davies AC Suzy Davies AC William Powell AC Lindsay Whittle AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Carl Sargeant AC, Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol Rhodri Asby, Llywodraeth Cymru Nicola Charles, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Naomi Stocks (Ail Glerc) Ruth Hatton (Dirprwy Glerc) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Stephen Boyce (Ymchwilydd) Alys Thomas (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cafwyd ymddiheuriadau gan Simon Thomas AC, a dirprwyodd Lindsay Whittle ar ei ran.
2 Tystiolaeth mewn perthynas â Bil yr Amgylchedd (Cymru)
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Carl Sargeant AC, y Gweinidog Adnoddau Naturiol, mewn perthynas â Bil yr Amgylchedd (Cymru).
Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor am y modd y caiff adran 22 o'r Bil ei gweithredu; unedau carbon a masnachu carbon; y modd y gweithredir y drefn daliadau am fagiau siopa yn Lloegr; a'r broses apelio yn adran 74 o'r Bil.
3 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
3.1 CLA534 - Gorchymyn y Cwricwlwm Cenedlaethol (Cymedroli Trefniadau Asesu ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2015
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn statudol ac roedd yn fodlon arno.
4 Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
4.1 CLA533 - Rheoliadau Gofal a Chymorth (Asesu) (Cymru) 2015
4.2 CLA532 - Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwystra) (Cymru) 2015
Trafododd y Pwyllgor yr offerynnau, a bydd yn cyflwyno adroddiad i'r Cynulliad.
5 Papurau i’w nodi
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
Cytunodd y Pwyllgor i gynnal gweddill y cyfarfod mewn sesiwn breifat i ystyried y canlynol:
6.1 Y Bil Amgylchedd (Cymru) Ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law
6.2 Ymchwiliad i Ddeddfu yn y Pedwerydd Cynulliad: Adroddiad drafft